GWEITHGARWCH RHYNGWLADOL GWEINIDOGION
EBRILL 2025
|
YMWELIADAU Â CHYMRU |
|
|
02 Ebr
|
Ymweliad gan Lysgennad yr UE i'r DU a Phenaethiaid Llysgenadaethau eraill Cyfarfu'r Prif Weinidog â Llysgennad yr UE i drafod y berthynas economaidd rhwng Cymru a'r UE a chryfhau cysylltiadau ehangach. Gyda Llysgennad yr UE yr oedd Llysgenhadon Latfia, Gwlad Belg, Bwlgaria a Lwcsembwrg. |
|
YMWELIADAU Â GWLEDYDD ERAILL |
|
|
02 Ebr
06 Ebr
08 Ebr
23 Ebr
|
Ymweliad y Dirprwy Brif Weinidog â Latfia. Teithiodd y Dirprwy Brif Weinidog i Riga i ymweld â chwmni rhedeg Cynllun Dychwelyd Ernes Latfia ac i gwrdd â swyddogion llywodraeth Latfia.
Ymweliad y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflenwi â Malta Ymwelodd y Cwnsler Cyffredinol â Malta i siarad yng Nghynhadledd Cyfraith y Gymanwlad a dysgu oddi wrth arbenigwyr yn y maes.
Ymweliad y Prif Weinidog â Chopenhagen Teithiodd y Prif Weinidog i Gopenhagen i siarad yng nghynhadledd Wind Europe a chyfarfod â phenaethiaid cwmnïau i hyrwyddo’r sector ynni adnewyddadwy, ynni gwyrdd a thwf gwyrdd yng Nghymru.
Ymweliad Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio â Japan Teithiodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio i Japan ar gyfer rhaglen 5 diwrnod o ddigwyddiadau, fel rhan o Flwyddyn Cymru a Japan. Y nod oedd ehangu a gwella cysylltiadau economaidd, diwylliannol a thwristiaeth. Daeth yr ymweliad i ben gyda Diwrnod Cymru yn Expo Osaka 2025, lle cynhaliodd Ysgrifennydd y Cabinet dderbyniad ym Mhafiliwn y DU. Datganiad Ysgrifenedig: Ymweliad Gweinidog â Japan
|